Discover and read the best of Twitter Threads about #Cyfrifiad2021

Most recents (7)

Mae 3 pharc cenedlaethol yng Nghymru a 10 yn Lloegr sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu 10.97% o'r tir yng Nghymru a Lloegr

Mae data #Cyfrifiad2021 newydd yn dangos bod 399,400 o bobl yn byw yn y parciau hyn yn 2021 (0.67% o'r boblogaeth breswyl arferol)

➡️ cy.ons.gov.uk/peoplepopulati…
Yng Nghymru, Bannau Brycheiniog oedd y parc cenedlaethol mwyaf poblog gyda 33,500 o breswylwyr a 15,000 o gartrefi.

Arfordir Penfro oedd yr un lleiaf poblog (20,900 o breswylwyr, 9,800 o gartrefi) a lle gwelwyd y dirywiad mwyaf (7.6%) mewn preswylwyr o'r holl barciau ers 2011.
Yn Lloegr, y tri pharc cenedlaethol â'r nifer mwyaf o breswylwyr arferol a chartrefi oedd:

▪️ y South Downs (113,300 o breswylwyr, 48,600 o gartrefi)
▪️ Ardal y Llynnoedd (39,000 o breswylwyr, 17,800 o gartrefi)
▪️ y Peak District (35,900 o breswylwyr, 16,200 o gartrefi)
Read 5 tweets
Rydyn ni wedi rhyddhau data newydd #Cyfrifiad2021 am bobl yng Nghymru a Lloegr sy'n defnyddio ail gyfeiriad.

Nododd 5.3% o'r boblogaeth eu bod wedi aros mewn ail gyfeiriad am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn – cynnydd bach o gymharu â Chyfrifiad 2011 (5.2%) ow.ly/ttPY50MiV5V
Roedd canran ychydig yn is o breswylwyr arferol yng Nghymru yn defnyddio ail gyfeiriad (5.2%) o gymharu â Lloegr (5.4%).

Yng Nghymru, roedd canran fwy o breswylwyr arferol a oedd yn byw yng Nghaerdydd (10.5%) a Cheredigion (10.2%) yn defnyddio ail gyfeiriadau.
Roedd gan Gymru (4.5%) gyfran uwch na Lloegr (4.1%) o breswylwyr arferol a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru, Ceredigion (9.1%) oedd yr awdurdod lleol oedd â'r gyfran uchaf o bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad o fewn y Deyrnas Unedig.
Read 4 tweets
Rydym wedi rhyddhau data newydd #Cyfrifiad2021 ar iaith yng Nghymru a Lloegr.

Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) oedd prif iaith 91.1% o breswylwyr arferol, 3 oed a throsodd, yn 2011.

Mae hyn i lawr o 92.3% yn 2011.

➡️ ow.ly/VOWH50LPNap
Roedd canran y bobl a oedd yn siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel eu prif iaith yn uwch yng Nghymru (96.7%) nag yn Lloegr (90.8%).
Y prif ieithoedd mwyaf cyffredin, heblaw Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) yn 2021 oedd:

▪️ Pwyleg (1.1%, 612,000)
▪️ Rwmaneg (0.8%, 472,000)
▪️ Pwnjabeg (0.5%, 291,000)
▪️ Wrdw (0.5%, 270,000)
Read 5 tweets
Rydym wedi rhyddhau data newydd #Cyfrifiad2021 ar grwpiau ethnig preswylwyr arferol a chyfansoddiad ethnig cartrefi yng Nghymru a Lloegr.

➡️ ow.ly/uqZw50LPMZt
Nododd 81.7% o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr eu grŵp ethnig yn y categori lefel uchel “Gwyn” yn 2021, gostyngiad o 86.0% yng Nghyfrifiad 2011.
Fel rhan o'r grŵp ethnig “Gwyn”, nododd 74.4% o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” fel eu grŵp ethnig.

Mae hwn yn ostyngiad sydd wedi parhau o 80.5% yn 2011, ac o 87.5% yn 2001.
Read 4 tweets
Rydym wedi rhyddhau data newydd #Cyfrifiad2021 ar grefydd yng Nghymru a Lloegr.

Dewisodd 46.2% “Cristnogaeth” llai na hanner y boblogaeth am y tro cyntaf.

Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol o 59.3% yn 2011, ond hwn oedd yr ymateb mwyaf cyffredin o hyd.

➡️ ow.ly/FJ9g50LPMKI
Dewisodd 37.2% o'r boblogaeth yr opsiwn “Dim crefydd”, cynnydd sylweddol o 25.2% yn 2011. Hwn oedd yr ail ymateb mwyaf cyffredin.

Dewisodd 6.5% “Islam”, cynnydd o 4.9% yn 2011.

Dewisodd 1.7% “Hindŵaeth”, cynnydd o 1.5% yn 2011.
Dewisodd 0.5% “Bwdhaeth”, cynnydd o 0.4% yn 2011.

Dewisodd 0.5% “Iddewiaeth”, yr un peth ag yn 2011.

Dewisodd 0.9% “Siciaeth”, cynnydd o 0.8% yn 2011.
Read 4 tweets
Am y tro cyntaf, rydyn ni wedi casglu gwybodaeth #Cyfrifiad2021 am y boblogaeth cyn-filwyr.

Dywedodd 1,853,112 o bobl yng Nghymru a Lloegr eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol (3.8% o breswylwyr arferol dros 16 oed).

➡️ ow.ly/Uo7Q50LzC5K
Roedd gan 7% (1.7 miliwn) o'r holl gartrefi yng Nghymru a Lloegr o leiaf un person a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU.

O blith y cartrefi hyn:

▪️ roedd 96% yn cynnwys 1 cyn-filwr yn unig
▪️ roedd 3.9% yn cynnwys 2 gyn-filwr
▪️ roedd gan 0.1% 3 chyn-filwr neu fwy
Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr oedd:

▪️ Conwy (5.9%)
▪️ Sir Benfro (5.7%)

Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr oedd:

▪️ Conwy (10.2%)
▪️ Ynys Môn (9.9%)
Read 4 tweets
Roedd 24.8 miliwn o gartrefi yng Nghymru a Lloegr yn 2021 yn ôl data #Cyfrifiad2021 - cynnydd o 6.1% o gymharu â 2011 (23.4 miliwn) 🏠

Roedd 1.35 miliwn o gartrefi yng Nghymru yn 2021 - cynnydd o 3.4% o gymharu â 2011 (1.3 miliwn).

ow.ly/Erxf50LrJiQ
Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r maint cartref mwyaf ar gyfartaledd, pob un â 2.4 o breswylwyr fesul cartref, oedd:

🏠 Caerdydd
🏠 Casnewydd

Yr awdurdod lleol â'r maint cartref lleiaf ar gyfartaledd oedd Conwy (2.2 o breswylwyr fesul cartref).
Caiff amddifadedd cartrefi ei fesur ar sail pedwar dimensiwn: cyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd, a thai

Yr awdurdodau lleol yng Nghymru â'r gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn ddifreintiedig mewn o leiaf un dimensiwn oedd

▪️ Blaenau Gwent (61.7%)
▪️ Merthyr Tudful (59.8%)
Read 4 tweets

Related hashtags

Did Thread Reader help you today?

Support us! We are indie developers!


This site is made by just two indie developers on a laptop doing marketing, support and development! Read more about the story.

Become a Premium Member ($3.00/month or $30.00/year) and get exclusive features!

Become Premium

Too expensive? Make a small donation by buying us coffee ($5) or help with server cost ($10)

Donate via Paypal Become our Patreon

Thank you for your support!